Rhif y ddeiseb:  P-06-1308

Teitl y ddeiseb: Rhaid gweithredu ar unwaith i roi terfyn ar aflonyddu rhywiol yn HOLL ysgolion Cymru, nid ysgolion uwchradd yn unig

Mae ymchwiliad diweddar y Senedd i aflonyddu rhywiol mewn ysgolion uwchradd wedi dangos graddfa’r broblem, yn enwedig i ferched. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod aflonyddu hefyd yn rhemp mewn ysgolion cynradd a cholegau, ac mae’r adroddiad yn argymell cynnal adolygiadau pellach. Ni allwn aros am ragor o ymchwiliadau cyn gweithredu. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y camau a gymerir yn sgil yr adroddiad yn cael eu hymestyn ar unwaith i gynnwys pob lleoliad, a hynny er mwyn cadw dysgwyr yn ddiogel rhag aflonyddu rhywiol drwy gydol eu haddysg.

Rhagor o fanylion:

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Gorffennaf 2022, sef 'Mae’n effeithio ar bawb: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr’, a’r adroddiad a gyhoeddwyd gan Estyn ym mis Rhagfyr 2021, sef ‘Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon’, ill dau wedi dangos maint a graddfa’r broblem o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion, yn enwedig yr aflonyddu y mae merched yn ei wynebu.

Dangosodd y dystiolaeth nad yw hyn yn digwydd mewn ysgolion uwchradd yn unig; mae'n dechrau yn y sector cynradd, ac yn dilyn merched a menywod ifanc i addysg bellach a thu hwnt. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiadau pellach o’r lleoliadau hyn.

 

Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi bod yn aros yn ddigon hir am gamau gweithredu ynghylch y mater hwn, sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd a’u profiadau dysgu. Bydd ymchwiliad arall ond yn gohirio’r gwaith pwysig o newid diwylliant sy’n ystyried bwlio rhywiol cyffredin fel rhan arferol o gymdeithas ac addysg. Rhaid gweithredu yn awr ym mhob ysgol a choleg.

https://www.estyn.llyw.cymru/adroddiadau-thematig/dydyn-ni-ddim-yn-dweud-wrth-ein-hathrawon-profiadau-o-aflonyddu-rhywiol-rhwng

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=38554

1.        Crynodeb

§  Roedd Adroddiad Estyn ac ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg  yn canolbwyntio ar ddisgyblion oedran ysgol uwchradd a chanfuwyd bod aflonyddu rhywiol yn broblem fawr a’i bod wedi “ei normaleiddio". Mae'n effeithio ar ferched a phobl ifanc LHDTC+ yn bennaf.

§  Ychydig o waith ymchwil a wnaed i'r sefyllfa mewn ysgolion cynradd, yn rhannol oherwydd sensitifrwydd trafod pwnc o'r fath gyda phlant yr oedran hwn.

§  Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei bod yn comisiynu adolygiad mewn ysgolion cynradd ac mae bellach yn ystyried cwmpas a dull gweithredu adolygiad o'r fath.

2.     Y cefndir

Mae aflonyddu rhywiol rhwng pobl ifanc wedi cael mwy o sylw yn ystod y deunaw mis diwethaf, gyda gwefan Everyone’s Invited  yn darparu llwyfan i ddioddefwyr gofnodi eu tystiolaeth a’u profiadau yn ddienw. Gall dioddefwyr enwi’r ysgol, y coleg neu’r brifysgol lle y digwyddodd, neu y deilliodd, yr aflonyddu neu'r cam-drin.

Ym mis Mehefin 2021,  fe adroddwyd gan y BBC fod dros 90 o ysgolion yng Nghymru wedi cael eu rhestru ar y wefan. Hefyd, fe adroddwyd ym mis Tachwedd 2021 bod plant mor ifanc ag 11 oed yn dysgu am ryw o bornograffi. Oherwydd hyn, mae pryderon bod plant a phobl ifanc yn dod i gysylltiad â chynnwys rhywiol, gan gynnwys ar-lein, ac a yw hyn yn achos, neu o leiaf yn ffactor gwaethygol, o ran aflonyddu rhywiol gan gyfoedion.

Ym mis Mehefin 2021, gofynnodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg  i Estyn, yr arolygiaeth addysg, ymchwilio i aflonyddu rhywiol mewn ysgolion uwchradd ac o’u hamgylch.  Cyhoeddodd Estyn ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2021. Wedi hynny, cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd  ymchwiliad i'r mater, gan gyflwyno adroddiad ym mis Gorffennaf 2022.

Dywedodd datganiad ar y cyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2021 fod adroddiad Estyn yn “anodd ei ddarllen” ac yn  “tynnu sylw at y gwirionedd anghyfforddus ynghylch nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion yn ein hysgolion”. Ymatebodd y Gweinidogion i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Hydref 2022, cyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Hydref 2022.

3.     Beth mae adroddiad Estyn ac ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei ddweud am y broblem bresennol mewn ysgolion uwchradd

3.1.          Adroddiad Estyn

Adroddodd Estyn nad yw disgyblion yn gyffredinol yn dweud wrth eu hathrawon mewn ysgolion uwchradd pan fyddan nhw'n profi aflonyddu rhywiol. Mae hyn yn bennaf oherwydd ei fod yn digwydd mor rheolaidd fel ei fod wedi cael “ei normaleiddio”.

§  nid yw disgyblion yn teimlo'n ddigon hyderus;

§  nid yw'r ysgol wedi creu diwylliant ac amgylchedd lle y gallant wneud hynny; ac

§  nid yw disgyblion yn ei weld fel rhywbeth y dylen nhw ei rannu â'u hathrawon.

Ymwelodd Estyn â 35 o ysgolion uwchradd yn hydref 2021 a chlywodd gan 1,300 o ddisgyblion. Canfu’r Arolygiaeth fod arweinwyr ysgol, lle maen nhw’n ymwybodol o achosion o aflonyddu rhywiol, yn ymateb yn addas i gwynion ffurfiol ac yn gwneud atgyfeiriadau priodol, er enghraifft at y gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu. Fodd bynnag, canfuwyd hefyd fod anghysondeb yn nealltwriaeth staff ysgol o beth yw aflonyddu rhywiol, sy'n golygu bod anghysondebau yn y ffordd y maent yn ymateb. Prif ganfyddiadau Estyn oedd:

§  dywed hanner yr holl ddisgyblion uwchradd fod ganddynt brofiad personol o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion a dywed tri chwarter yr holl ddisgyblion eu bod wedi gweld disgyblion eraill yn profi hyn;

§  mae mwyafrif o ddisgyblion benywaidd (61 y cant) yn nodi bod ganddynt brofiad personol o aflonyddu rhwng cyfoedion ac mae llawer (82 y cant) yn nodi eu bod wedi gweld eraill yn ei brofi; Mae hyn yn cymharu â chyfran is o ddisgyblion gwrywaidd (29 y cant a 71 y cant yn y drefn honno);

§  Mae gan ddisgyblion LHDTC+ brofiadau personol sylweddol o aflonyddu homoffobig geiriol, a dywed llawer ohonynt fod bwlio homoffobig yn digwydd trwy’r amser.

§  Mae rhywfaint o aflonyddu rhywiol yn digwydd wyneb yn wyneb yn ystod y diwrnod ysgol, er ei fod yn digwydd yn fwy felly ar-lein a thu allan i oriau ysgol; ac

§  mae gwendidau o ran casglu a defnyddio data ar achosion o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion uwchradd ac o'u hamgylch.

Canfu adolygiad gan Ofsted ddarlun tebyg yn Lloegr. Fel adroddiad Estyn, ni wnaeth edrych ar ysgolion cynradd.

3.2.        Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Roedd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn adleisio canfyddiadau Estyn a daeth i’r casgliad bod "aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr yn frawychus o gyffredin". Gwnaeth y Pwyllgor 24 o argymhellion, gan gynnwys bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu adolygiad tebyg mewn ysgolion cynradd, o ystyried bod aflonyddu rhywiol yn debygol o fod yn broblem weithiau mewn oedrannau iau hefyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i wneud hyn ac mae hefyd wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad mewn colegau.

Ychydig o waith ymchwil sydd wedi’i wneud i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn ysgolion cynradd, felly nid yw maint y broblem yn glir. Dywedodd yr Athro EJ Renold, Athro Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Caerdydd, wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

"There is less research in this area, mainly because of the difficulty in designing affirmative methods that allow children to talk about some of the most sensitive experiences at that age. A lot of ethnographic research often captures this; this isn't survey data, it's being with children over a period of time allows you to see what's happening in those classrooms and in playgrounds and so on, and building that trust that they can talk to you about maybe what's happening."

Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg rai arwyddion, gan gynnwys gan undebau athrawon a Barnado's, bod aflonyddu rhywiol yn debygol o fod yn broblem hefyd ymhlith plant oed ysgol gynradd, yn enwedig ym mlynyddoedd 4, 5 a 6. Cofnodir hyn ym mharagraffau 54-57 o adroddiad y Pwyllgor.

Felly, gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac addysg yr argymhelliad a ganlyn:

Rhaid i Lywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith plant oed ysgol gynradd, gan fanteisio ar arbenigedd ac arweiniad gan elusennau plant, academyddion a Chomisiynydd Plant Cymru fel y bo’n briodol.

4.     Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem?

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad ei fod yn comisiynu adolygiad mewn ysgolion cynradd, gan ymateb fel a ganlyn:

Byddai'n fuddiol cael gwell dealltwriaeth o brofiadau plant o fwlio ar sail rhyw neu aflonyddu rhywiol mewn lleoliadau cynradd, a byddai gwrando ar blant yn rhan hanfodol o unrhyw adolygiad i'r maes hwn. Fodd bynnag, rhaid i gyfranogiad plant mewn unrhyw ddysgu neu drafodaeth ar themâu o'r natur hwn fod yn briodol yn ddatblygiadol a dylai pynciau trafod fod yn gysylltiedig â phrofiadau a dealltwriaeth plant eu hunain. Byddwn felly’n bwrw ymlaen â thrafodaethau gyda rhanddeiliaid allweddol i bennu cwmpas yr adolygiad a rhoi manylion pellach i'r pwyllgor maes o law.

Mae llythyr y Gweinidog at y Pwyllgor hwn yn cydnabod nad yw aflonyddu rhywiol gan gyfoedion wedi'i gyfyngu i ysgolion uwchradd yn unig a bod angen gweithredu ar draws pob lleoliad. Fodd bynnag, mae'n dweud ei bod yn bwysig i sicrhau ein bod yn ymateb mewn ffordd sydd wedi’i theilwra’n briodol ar gyfer bob oedran.

O ran y broblem yn fwy cyffredinol a'i ymateb i adolygiad Estyn ac ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a oedd yn canolbwyntio ar ddysgwyr oedran ysgol uwchradd, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun gweithredu. Bydd y cynllun gweithredu hwn yn cynnwys amryw o asiantaethau perthnasol ac adrannau'r llywodraeth a bydd yn nodi'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem. Dywed llythyr y Gweinidog mai nod Llywodraeth Cymru yw cyhoeddi'r cynllun gweithredu cyn y Nadolig.

Fel y mae llythyr y Gweinidog yn amlinellu ac fel y dywedodd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae gan Lywodraeth Cymru ystod o ganllawiau ar waith i ddiogelu dysgwyr. Bwriad Llywodraeth Cymru yw y bydd addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb  “yn briodol yn ddatblygiadol”, yn y Cwricwlwm i Gymru newydd, yn amddiffyn pobl ifanc yn well ac yn hyrwyddo agweddau a dealltwriaeth well.

Mae'r cwricwlwm newydd bellach yn cael ei ddysgu mewn ysgolion cynradd a bydd yn statudol mewn ysgolion uwchradd i Flwyddyn 7 a Blwyddyn 8 o fis Medi 2023, cyn cael ei gyflwyno i grwpiau blwyddyn ychwanegol bob blwyddyn nes iddo gyrraedd Blwyddyn 11 ym mis Medi 2026. Yn wahanol i'r addysg rhyw bresennol y mae'n ei disodli, bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn orfodol mewn ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd, ac ni fydd gan rieni yr hawl i dynnu eu plant o'r gwersi hynny.

Mae’r egwyddor o ddysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb mewn ffordd "briodol yn ddatblygiadol" yn un bwysig ac fe'i nodir yn y ddeddfwriaeth sy’n sefydlu'r Cwricwlwm i Gymru. Cafodd ei ailadrodd hefyd mewn gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru at bob pennaeth ysgol.

5.    Rhagor o wybodaeth

Mae Ymchwil y Senedd eisoes wedi cyhoeddi dwy erthygl ynghylch aflonyddu rhywiol ymhlith pobl ifanc, ym mis Chwefror a mis Hydref 2022.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.